Yn dilyn llwyddiant ysgubol y Ffair Wledig
gyntaf yma a atynwyd dros 4500 o fobl yma i Ganolfan Cywain, Y Bala mis Awst 2010 mi benderfynwyd fel pwyllgor o gyfarwyddwyr ei bod hi’n amser bwrw iddi i
drefnu dilyniant i’r Ffair. Y nôd eleni yw cynnal Ffair Wledig Gogledd Cymru ar
Stad Rhiwlas Y Bala er mwyn adeiladu ar lwyddiant y Ffair yn 2011 ac i fedru gwasanethu
safle digon eang i stondinwyr amrywiol ac i alluogi ymwelwyr gael blas o wir
agwedd bywyd gwledig. Cynnigir diwrnod hwylus i’r holl deulu gan gynnwys adloniant
a gweithgareddau.Y gobaith yw y bydd o ddiddordeb i bobol lleol a thwristiaid
fel eu gilydd. Oherwydd safle canolog Y
Bala mi rydem fel trefnwyr yn credu y byddem ni’n tynnu’r tyrfaoedd o bob rhan
o Ogledd a Chanolbarth Cymru yn ogystal ag ardaloedd y ffin.
Mi fydd yna bob math o ddigwyddiadau yn cael
eu cynnal gan gynnwys saethu colomennod clai, arddangosfeydd cwn, adar
ysglyfaethus, sioe gwn ac yn y blaen. Mi fydd digwyddiadau cyson yn cael eu
cynnal yn y prif gylch hefyd a llawer o ddigwyddiadau ymylol i blant. Yn ogystal
rydym yn credu yn gryf mewn hybu
cynnyrch Cymreig a mi fydd Neuaddau Bwyd
yma yn ogystal a Neuaddau Crefft a stondinau gyda digon o amrywiaeth fydd yn
sicr at ddant pawb o’r teulu.